Balchder
Cyw deor o gwiar canol-oed
20.7.24
Ma’ hi’n 11 y bore, yn tresio bwrw, dwi di methu cael ffrind i ddod hefo fi - ond mae'n rhaid i mi fynd. Mae'n rhaid i mi orymdeithio. Dwi isio gorymdeithio.
Mae Balchder Gogledd Cymru wedi dod a dathliad a safiad i Langefni - y dref segur a fu’n gartref i mi am gyfnodau rhwng 11 a 24 oed - a dwi isio sefyll yn falch yng nghwmniaeth addfwyn, beiddgar a lliwgar y dorf honno. Dwi isio perthyn, ac ymddiheuro yn dawel.
Alla i ddim cofio anadlu wrth gerdded i lawr stryd fawr yn fy nghrys-ffrog sequins enfys sgrechlyd, cap baseball i guddio gwallt heb ei olchi, a fy mŵts chelsea Doc Marten. Roedd Lowri 12 oed yn dal i ddisgwyl cerydd am gyboli gyda pethau dieflig a gwisgo sgert rhy gwta! Roedd Lowri 39 oed yn meithrin calon wedi’i thori yn ddiweddar a theimladau o anobaith rhamantaidd. Hyn yng nghanol cawl enfys o gariad a gobaith a chwtsys a llais Melda Lois a môr a galonnau eraill oedd heb os yn brwydro’n galetach byth. Dagrau. Llwyth o ddagrau ynghudd yn niwl y glaw.
Nes i ddim aros i ddathlu a chyfarfod ffrindiau newydd y diwrnod hwnnw. Am reswm na alla’i amgyffred, penderfynodd fy nghyn-gariad fynychu’r digwyddiad. Heb glywed ganddo ers wythnosau maith, roedd ei weld a’i gofleidio cyn iddo gerdded i ben draw’r dorf yn glec stumog na allwn ei goroesi yn gyhoeddus, ar ben holl emosiynnau eraill y diwrnod.
***
Doedd ‘balchder’ ddim yn bodoli i mi wrth gamu o bentref bach Bodffordd i Ysgol Uwchradd Llangefni ym 1996. Doedd dim pelydren o LHDTC+ yn fy myd. “Ych a fi” gan mam. “Pechod” gan dad. Er fy mod i’n breuddwydio gan amlaf am ferchaid, doedd dim ‘blaw caru bechgyn yn dderbyniol yn y byd bach cul hwnnw.
Perthnasau hetero fuais i ynddyn nhw erioed, gyda’r angerdd cwiar yn mudlosgi a fflamio yn gyfnewidiol dros y blynyddoedd. Magu plant, trais emosiynol, ffeindio perthynas ddiogel yna dioddef aniddigrwydd y pylu rhywiol. Trio ngorau i wneud i bethau weithio, ond all enaid tanbaid ddim dioddef hanner gwirionedd yn rhy hir.
Daeth fy 9 mlynedd o fod yn wraig bel-droed i ben yn 2016. Roedd 5 mlynedd dan reolaeth ymosodol dyn arall wedi dod i ben cyn hynny yn 2006. Yn 31 oed, roeddwn i’n dechrau o’r dechrau. Doeddwn i ddim hyn na 18 oed o ran datblygiad cymdeithasol, ac yn trio dod i adnabod fy hun a thrio cynnal rhywfaint o normalrwydd i 3 o blant. Head-fuck.
Ges i ambell brofiad rhywiol cwiar mewn meddwdod, a nes i rili hoffi un ferch, ond allwn i ddim diddanu’r posibilrwydd o berthynas gyda hi. ‘Roedd fy rhestr pechodau yn hirfaith - allwn i ddim gollwng ‘baich’ ychwanegol o ‘gywilydd’ ar fy rhieni.
Ffactor arall o beidio cofleidio bodolaeth gwiar bryd hynny oedd - mam un o ffrindiau fy mhlant wedi gadael partner oedd yn ddyn i fyw gyda dynes. Roedd ymateb rhai rhieni a phlant y pentref mor farnllyd a bychanus, doeddwn i ddim isio i fy hogiau i brofi yr un peth. Roedd yr ysgariad wedi bod yn ddigon o straen arnyn nhw, a finna.
Rhywbeth i mi fy hun fu fy nheimladau cwiar, ac ro’n i’n ok gyda hynny, wrth lwyddo i ddenu partneriaid. 2 flynedd yma, 6 mis acw. Pob cysylltiad yn colli stêm. Rhywbeth ar goll ‘ynddyn nhw’, rhesymais i. O! am greulon. O! am ddwl.
***
‘Dw i erioed wedi bod isio datgan y peth yn gyhoeddus. Mae’n dal i deimlo fel taith fewnol a phreifat, ac hefyd, dwi wedi cyrraedd y realiti breintiedig yma mewn gwlad lled-ryddfrydig trwy dderbyniad a normaleiddiad bywydau cwiar, diolch i frwydro cyhoeddus, dioddefaint tawel a marwolaethau arswydus miloedd o unigolion a chariadon. Felly gwau fi rhag datgan yn falch;
Dwi’n ddynes gwiar, demi-rywiol gyda libido anwadal!
Dros amser, dechreuais fod yn fwy agored gyda ffrindiau a phartneriaid a bod yn fwriadol ynglyn a cheisio cysylltiadau cwiar. Dechreuais deimlo yn fwy cyflawn.
Eleni, dwi ‘di rhannu mewn ambell ysgrif ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn cyfweliad i’r BBC.
Mae’n debyg bod fy rhieni wedi ei weld - ond fasa nhw byth yn sôn. Dwi wedi iachau digon rwan i dderbyn cyfyngiadau eu ffydd ar eu gallu i ddathlu ac annog hapusrwydd cwiar eu merch. Rwy’n eu caru pob tamaid.
***
Mae bywydau cwiar yn gymleth, yn gelfydd ac yn orfoleddus. Fel baby-gay yn tynnu at fy 40 oed, dwi’n brwydro teimladau o ddiffyg teilyngdod. Mae ail-raglennu’r holl ddylanwadau heteronormative, misogynistaidd a homophobaidd o fy magwraeth ac oedolaeth ifanc mewn perthnasau tocsig yn her.
Dwi’n cam-ryweddu pobl, yn anghofio datgan fy pro-nouns, dim yn ddigon o ‘ally’, yn crefu agosatrwydd (emosiynol mwy na chorfforol) ac yn ofni am fy mywyd y bydda’i yn gariad cwiar shit. Mae caseg-eira fy esblygiad enfysaidd yn fflio mynd, heb gyrchfan penodedig…ac mae’r Queer Joy yn gaethiwus.
Pan ddaru cyfaill newydd ffarwelio a fi yn ddiweddar gan ddweud “Bye, Gay!” - ges i fy llorio. Moment mor bwerus. Hapusrwydd y perthyn a’r dilysrwydd newydd yna yn gymysg gyda galar y chwarter canrif ddiwetha o ‘syth-dra’.
Nid yw fy hunaniaeth i erioed wedi bod yn rywbeth sefydlog. Serennu yn yr ysgol, rhiant yn 16 oed, gweithiwr uchelgeisiol, creadigolyn cysgodol, ffrind, actifydd, derwydd, gwrach, cwiar. Mae’r venn diagram yn swreal, a dwi’n wingio hi go iawn yn y gofodau sy’n gor-gyffwrdd, fel person niwroamrywiol sy’n hoffi adrannu bywyd .
***
Mae Balchder yn rywbeth dwi’n weithio arno - yn wrthrychol, yn newidiol.
Mae fy ngwerthoedd craidd yn rai all berthyn i unrhyw berson, yn goresgyn rhywioldeb a rhywedd - gofal, diolchgarwch, undod, hedd a thaw. Y ddau olaf, mae’n debyg, yn anoddach i’w ymgorffori mewn cymuned sy’n parhau i wynebu gormes.
Dwi’n Falch er mwyn Hedd a Thaw y teulu LHDTC+.


Ysgrif hollol lush a un allai relate-io i meen sawl ffordd. Mae'r ffor ti'n sgwennu'n hyfryd hefyd