Ysglyfaethwyr
- yr hogia' "caru pawb", a diolch i Gisele Pelicot.
RHYBYDD CYNNWYS GREF [trais rhywiol]
Ychydig dros bedair mlynedd yn ôl, yn drwm gan siom profiad arall o ‘ghostio’, es i i allan am beint diwedd pnawn gyda hen ffrindia. Wel, dwi’n deud ffrindia - pobl o’n i di gwario sawl noson fler yn eu cwmni mewn rhyw siambr atsain o foesoldeb yn siwr bod atebion i broblemau’r byd gennym ni. Pobl dda. Pobl fregus. Pobl wyllt. Y math o bobl oedd yn fwy ‘real’ na’r mwyafrif ar ôl bod trwy’r felin. Pobl tebyg i fi.
Criw cerddorol, criw trin geiria, yn ôl a ni i nhŷ fi i jamio. Codi hwylia, yfed gormod, malu cachu, creu dim byd ond lol. Pawb yn dianc mor bell a medra nhw o anfodlonrwydd eu bywydau i waelod y crât a’r bag.
Ges i ddigon - roedd hi’n noson ysgol. Noswylio a chynnig i bawb ffeindio rwla i roi pennau i lawr, os awn nhw i lawr o gwbl. Mae ‘na 5 llofft acw, digon o le.
Es i am fy hafan glyd, pyjamas ‘mlaen a chau’r byd allan. Duwch. Trwmgwsg.
Chefais ti ddim gwahoddiad i fy stafell wely i.
Chefaist ti ddim gwahoddiad i fy ngwely i.
Chefaist ti ddim caniatad i dynnu fy mhyjamas i.
Chefaist ti ddim caniatad i roi dy gorff ar ac i mewn i fy nghorff i.
Hanner deffro. Dychryn. Gwthio i ffwrdd. Terfysg tu mewn. Rhewi tu allan.
*****
Doedd hi ddim y tro cyntaf i nghorff i gael ei ddefnyddio heb bod calon yn y weithred.
Ond pob tro arall, ro’n i wedi dewis. Dewis cadw’r heddwch, dewis osgoi ffrae neu amddifadedd neu ddwrn trwy’r wal. Dewis cadw tô dros ben fy mhlant.
Bron yn fud ben bore, ro’is i lifft adra i’r 3 amigo (fasa yn cario mlaen i sesho trwy’r dydd) a gyrru i ‘ngwaith.
Llusgodd rywbeth ffyrnig yr anadl o ngwddw lawr i’r ddaear, taro’r brêcs a thynnu fewn wrth gylchfan Groeslon. Llefais fel nad oeddwn erioed wedi gwneud o’r blaen. Cyrlio fy hun yn bel isio rhwygo fy nghroen i ffwrdd. Dim ond rwan, rhyw 7 awr yn ddiweddarach yn sylwi beth oedd wedi digwydd. Wylo yn wallgof bod hyn rwan yn ran o fy stori. Ar ôl blynyddoedd o therapi i iachau cywilydd ac euogrwydd crefyddol o amgylch rhyw, iachau fy angen i blesio ac amddifadu fy hun yn sgil cam-driniaeth domestig a iachau pryderon perthnasu ar ôl cael fy ngalw yn mental, frigid bitch, psycho - rwan roeddwn i’n ddioddefwr trais.
Oeddwn? O’n i di wahodd o i’r tŷ. Odda ni’n ‘ffrindia’. Nes i adael i hyn ddigwydd am bod fi di yfed gormod? Pen yn ddryswch o’r holl feiau mae cymdeithas wedi eu pentyrru ar y dioddefwr mewn achosion o drais.
*****
Gyrru adra. Galw fy ffrind gora. Cadarnhau mai trais oedd hyn. Nad oeddwn i ar fai. Rhwygo dillad gwely i ffwrdd a phob dilledyn a’u taflu allan. Pe bai gen i ardd, faswn i di cynnau tân.
Diolch iddi hi am fy nal i, am fy argyhoeddi, am fy annog i adrodd i’r heddlu.
Ges i apwyntiad y diwrnod wedyn ym Mae Colwyn - Canolfan Amethyst. Roedd y car wedi torri felly rhaid oedd gofyn i mam am lifft. Doedd o ddim yn gyfleus ond fe ddaeth hi beth bynnag. Esboniais bwrpas yr ymweliad a beth oedd wedi digwydd.
“Www, disgusting” medda hi, cyn cario mlaen i sôn am lwyddiannau plant ei ffrindiau a lliwiau paent i’r stafell fwyta..…rwbath felly. Mae’r cywilydd Cristnogol yn salwch difrifol. Dim cwtsh. Holi mawr am yr heddlu. (Be fasa pobl yn ddeud!)
*****
Mae proses adrodd i’r awdurdodau am drais rhywiol yn ffiaidd. Nes i ail-adrodd yr hanes dros y ffôn wrth geisio apwyntiad, dwywaith i ddau berson diarth yn y ganolfan, wedyn hanner stori i’r nyrs a gymerodd swabs i fyny at fy cervix. Pob cyhyr yn fy nghorff yn brwydro galar agor coesau.
“We’ll keep these for 2 years or until the case is finished in court” medd y nyrs, oedd ychydig yn brin o ymdeimlad o ystyried y cyd-destun.
2 flynedd! Faswn i’n gorfod ail-fyw y profiad yma am ddwy flynedd? Ail-adrodd. Ail-fyw. Ail-deimlo.
“The next steps would be for you to be interviewed by a detective, and that would be recorded. It’s not a nice process as they need to find holes in the story before deciding if it can go to court. We would need to keep your mobile phone until the inquiry was complete. We would also need to talk to everyone who was in the house that night.”
Roedd fy mab (16 oed ar y pryd) wedi cyrraedd adre yn annisgwyl o dy ei dad y noson digwyddodd y peth. Mi fasa’r heddlu yn gorfod ei holi fo. Doeddwn i ddim am iddo wybod. Mae o’n hogyn tanllyd fasa isio dial, a basa dial yn difetha ei fywyd o.
Doedd dim posib mynd a’r achos ymhellach. Gadewais gyda hampyr hunan ofal - rhodd gan elusen Camilla, Duchess of Cornwall. Halen monarchiaidd yn y briw.
Pe bawn i wedi parhau, pe bai’r achos wedi cyrraedd y llys, pe bawn i’n goroesi croesholi ac ymosodiadau cymeriad ac ennill gronyn o gyfiawnder o gael O, a’i wep wanllyd i sefyll ei brawf, dyma’r tebygrwydd o ganlyniad….
69,184 rapes were recorded by police between 1 July 2023 and 30 June 2024.
And as of 30 June 2024, charges had been brought in just 2.7% of these cases.
Fewer than 3 in 100 rapes recorded by police between 1 July 2023 and 30 June 2024 resulted in someone being charged that same year
Let alone convicted.
6.5 million women in England and Wales
have been raped or sexually assaulted since the age of 16.
For those prosecuted, the conviction rate in 2022 was 62%
[ystadegau - Rape Crisis England and Wales]
*****
Felly mae o wedi cael cario ‘mlaen gyda’i fywyd. Yn rhydd i lechwra ac ysglyfaethu fel fyno. Dwi wedi gwneud fy ngorau i adael i’r merched yn fy mywyd a’r merched sy’n debygol o ddod ar ei draws o i fod yn wyliadwrus. Fasa cyhoeddi’r peth i’r byd yn siwr o danio ymosodiadau gan ei deulu. Mae gen i brawf o recordiad galwad ffôn pan nes i alw fo allan yn ystod cyfnod gwylltineb fy ngalar - mae o’n rhyw hanner ymddiheuro.
Alla i ddim gyrru trwy Fethesda heb deimlo’n sal. Dwi byth yn mwynhau mynd i wylio gigs yn disgwyl y bydd o yno yn wên i gyd yn twyllo’r byd ei fod o’n “caru pawb”, yn disgwyl am y parti tŷ nesaf i fynd iddo. Mae o’n un o nifer sy’n gweithredu yn yr un modd yn yr ardal a dwi’n cyd-sefyll gyda sawl chwaer yn eu dioddefaint sydd wedi rhannu profiadau tebyg gyda mi.
Mae’r ymosodiad nes i ei brofi, yn y lle mwyaf diogel oedd gen i yn y byd, wedi newid sut dwi’n byw yn fy nghorff, sut dwi’n cymdeithasu, sut dwi’n mwynhau fy hun, am byth. Mae’r ofn nes i deimlo yn y foment yna o ddeffro yn cael fy nhreisio yn ymddangos yn fy nghorff i heb rybydd. Mae’n dirgrynnu a chywasgu trwydda i, yn gwneud i mi dynnu i ffwrdd, yn gwneud i mi frysio, yn gwneud i mi amau bwriad pobl eraill ata’i.
Mae o wedi difetha sawl perthynas. Dwi’n benderfynol o iachau’r trawma rhywsut, gyda digon o gariad a gofal, i mi fy hun, a gan eraill.
*****
Mae ‘na rywbeth difrifol, ffiaidd o’i le yn ein cymdeithas ble mae cyrff yn cael eu trin fel gwrthrychau i’w defnyddio. Mae honna yn drafodaeth cwbl ar wahan, ond digon dweud bod angen tomen mwy o sgwrsio agored ynglŷn ac arferion dateio a ‘ffwcio’, ynglŷn a pherthnasu gofalgar a bwriadol, a uffar o lot mwy o alw allan ymddygiad ysglyfaethus all beryglu hapusrwydd a diogelwch hir-dymor unrhyw un.
Dwi’n erfyn ar bob rhiant i gael y sgyrsiau ynglŷn a chaniatad a pherthnasu a pharch gyda’u plant. Nid yn unig caniatad - tydi “ok, go on ta” ddim y lefel o frwdfrydedd y dylai unrhyw un anelu ato wrth ymgyrmyd ag agostrwydd rhywiol.
Annogwch eich plant i ystryied….
Yda chi wirioneddol yn awyddus, ydych chi yn teimlo wedi eich parchu a’ch gwerthfawrogi gan y person yma yr ydych chi’n ymwybodol yn dewis cael rhyw hefo? Ydy nhw yn eich ‘manipulatio’ chi mewn unrhyw ffordd?
Dwi’n llawn edmygedd a gwerthfawrogiad i’r dioddefwyr dewr sydd wedi ac yn parhau i frwydro am gyfiawnder. Peidiwn a gadael unrhyw le i ymosodwyr, manteiswyr a bechgyn emotionally stunted hefo’i gitârs i wenwyno bywydau unrhyw un i’r dyfodol.

